Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad i Hepatitis C

Inquiry into Hepatitis C

 

Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Evidence from Public Health Wales

Adran 1: Y camau sy'n cael eu cymryd i fodloni gofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 a chyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, wedi hynny, i ddileu hepatitis B a hepatitis C fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.

1.        Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi strategaeth fyd-eang i’r sector iechyd ar hepatitis feirysol gyda’r nod o ddileu hepatitis B (HBV) a hepatitis C (HCV) fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Targed Sefydliad Iechyd y Byd yw gostyngiad o 90% yn nifer yr achosion newydd (mynychder) a gostyngiad o 65% mewn marwolaethau oherwydd hepatitis B ac C erbyn 2030. Mae Cymru wedi ymrwymo i’r strategaeth hon. Cafodd y nod hwn ei gynnwys yn strategaeth tymor hir newydd hyd at 2030 Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018.

2.      Mae Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017) yn tynnu sylw at dri maes allweddol lle mae angen gweithredu yng Nghymru er mwyn symud tuag at darged dileu 2030. Y tri maes yw:

a.      Lleihau ac atal HCV rhag cael ei drosglwyddo ymlaen yng Nghymru;

b.     Adnabod unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ar hyn o bryd, yn cynnwys y rhai sydd wedi cael eu heintio â HCV y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac sydd nawr yn byw yng Nghymru; a

c.      Phrofi a thrin unigolion sydd wedi’u heintio â HCV sydd ar hyn o bryd yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n debygol o arwain at drosglwyddo pellach.

3.      Yng Nghymru, mae ‘Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu’ wedi adeiladu ar y gwaith da a hwyluswyd gan y cynllun, Blood Borne Viral (BBV) Hepatitis Action Plan for Wales 2010-2015. Mae'r cynllun hwn yn cael ei roi ar waith gyda chymorth y Grŵp Gweithredu ar Glefyd yr Afu, sy’n cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob bwrdd iechyd yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Afu Prydain a'r Children's Liver Disease Foundation.  Nododd y Grŵp Gweithredu ar Glefyd yr Afu hepatitis feirysol a gludir yn y gwaed fel un o’r meysydd blaenoriaeth allweddol.

4.      I helpu i symud yr agenda hon ymlaen, cafodd yr Is-grŵp Hepatitis Feirysol ei sefydlu. Mae’r is-grŵp hwn, sy’n cael ei gadeirio gan yr arweinydd cenedlaethol ar gyfer hepatitis, yn darparu arweinyddiaeth strategol a chefnogaeth i'r byrddau iechyd i symud ymlaen yn y maes hwn. Ceir cynrychiolaeth amlddisgyblaethol ar yr is-grŵp, yn cynnwys cynrychiolaeth o Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Darperir cymorth epidemiolegol a gweinyddol i’r grŵp gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

5.     Mae’r Is-grŵp Hepatitis Feirysol hwn yn adrodd yn rheolaidd i’r Grŵp Gweithredu ar Glefyd yr Afu a chaiff diweddariadau ar waith yr is-grŵp eu cynnwys yn y datganiad cynnydd blynyddol sy’n cael ei gyflwyno gan y Grŵp Gweithredu i Lywodraeth Cymru. Mae’r grŵp wedi hwyluso nifer o ddatblygiadau gan weithio gydag asiantaethau eraill fel sy’n briodol i ddatblygu a chefnogi mwy o brofion a thriniaeth mewn amryw o sefydliadau, yn cynnwys carchardai, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau trydydd sector a fferyllfeydd cymunedol.

6.     Gwnaeth yr Is-grŵp Hepatitis Feirysol helpu hefyd i sicrhau arian a gwasanaeth gweinyddol ar gyfer amryw o brosiectau yn ymwneud â strategaethau profi a thrin ar gyfer hepatitis C, e.e. arian i ddatblygu profion adwaith cadwynol polymerasau o brofion smotiau gwaed wedi sychu, gan roi diagnosis wedi’i gadarnhau yn gyflymach, a hynny yn ei dro yn gallu golygu mynediad cyflymach at driniaeth mewn rhai sefydliadau (e.e. fferyllfeydd cymunedol); a phenodi arweinydd profion pwynt gofal ar gyfer Canolfan Feiroleg Arbennig Cymru i ddatblygu’r gwasanaethau hyn mewn gwahanol sefydliadau ar draws Cymru.

7.      Mae’r Is-grŵp Hepatitis Feirysol hefyd yn cyd-drefnu’r casglu data i sicrhau bod y cynllun cenedlaethol yn cael ei lywodraethu’n briodol a bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei bwydo’n ôl i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Hefyd, mae’r is-grŵp wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i ddatblygu ffurflen hepatitis C electronig a fydd yn hwyluso’r gwaith o gasglu data trin cenedlaethol byw yn y dyfodol. Mae’r is-grŵp hefyd wedi cyfrannu tuag at ddatblygu model dileu gan ddefnyddio cwmni annibynnol, a ariannwyd drwy grant heb gyfyngiadau arno oddi wrth y diwydiant fferyllol.

8.     Mae’r Is-grŵp Hepatitis Feirysol yn cefnogi’r adolygiadau rheolaidd o’r cynllun cenedlaethol drwy ddarparu cyngor arbenigol ac argymhellion ynglŷn â datblygu, fel a phan y mae hynny’n briodol. Bu’r is-grŵp yn holl-bwysig hefyd yng ngweinyddiaeth y rhith banel sy’n fodd i drafod cleifion cymhleth er mwyn sicrhau bod yr opsiynau trin mwyaf priodol yn cael eu rhoi i’r unigolion hyn.

Lleihau HCV a’i atal rhag cael ei drosglwyddo ymlaen yng Nghymru

9.      Mae dros 90 y cant o’r trosglwyddo hepatitis C ymlaen yn digwydd drwy chwistrellu cyffuriau.  Felly, y ffordd fwyaf effeithiol o atal trosglwyddo yw drwy ostwng nifer yr unigolion sy’n chwistrellu a thrwy ddarparu Rhaglenni Nodwyddau a Chwistrellau effeithiol.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth i bob un o’r 270 Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghrymu, drwy (yn 2017/18) ddatblygu canllawiau, polisi a monitro.    Mae Rhaglenni Nodwyddau a Chwistrellau statudol a gwirfoddol a’r rhai sydd wedi’u lleoli mewn fferyllfeydd cymunedol i gyd yn cofnodi gweithgarwch unigol ar fodiwl y Gronfa Ddata Lleihau Niwed, sy’n fodd o ddarparu tystiolaeth o natur a graddfa’r defnydd o gyffuriau drwy chwistrellu, yn ogystal â chofnodi’r nodwyddau a’r chwistrellau sy’n cael eu darparu.  Caiff adroddiad blynyddol ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro’r cynnydd, (ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/HRD%20Report%202017-18%20-%20Final%20.pdf).

 

10.  Yn 2017/18 roedd cyfanswm o 14,000 o ddefnyddwyr yn defnyddio’r gwasanaethau nodwyddau a chwistrellau yn rheolaidd, a thros y pum mlynedd diwethaf bu gostyngiad yng nghyfradd y bobl ifanc sy’n chwistrellu cyffuriau ac yn manteisio ar wasanaethau, o 5.5% yn 2013/14 i 2.7% yn 2017/18.

 

11.     Arweiniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda Llywodraeth Cymru, ar broses gomisiynu genedlaethol yn 2016-7. Dechreuodd y fframwaith nodwyddau a chwistrellau newydd ym mis Gorffennaf 2017 ac mae wedi arwain at gyflwyno ‘paciau chwistrellu unwaith’ yn ardal pob rhaglen nodwyddau a chwistrellau. 

Adnabod unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ar hyn o bryd, yn cynnwys y rhai sydd wedi cael eu heintio â HCV y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac sydd nawr yn byw yng Nghymru

 

12.   Gyda dyfodiad meddyginiaethau newydd, hynod effeithiol, y mae’r corff yn gallu’u goddef yn dda, i drin hepatitis C, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain y gwaith o gyd-drefnu ymarferiad cenedlaethol i ymgysylltu o'r newydd â chleifion, a’i roi ar waith. Nod yr ymarferiad yw canfod unigolion sydd â diagnosis hanesyddol o Hepatitis C nad ydynt, am ba reswm/resymau bynnag, wedi cydweithio’n llwyr â gwasanaethau trin a cheisio dod â nhw yn ôl i mewn i’r gwasanaeth a chynnig triniaeth iddynt gyda’r therapïau newydd sydd ar gael rŵan (fel sy’n briodol).

 

13.   Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan grŵp gweithredu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Hepatitis C, Ymddiriedolaeth Afu Prydain a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru yn ogystal â phob  bwrdd iechyd yng Nghymru.

 

14.   Gan ddefnyddio data profi hanesyddol o’r labordy fel man cychwyn, gwnaed gwaith i adnabod yr unigolion hyn.  O wanwyn 2019, byddir yn cysylltu â nhw ac yn cynnig iddynt y cyfle i gydweithio o’r newydd â gwasanaethau a chael eu hasesu am driniaeth.

1.                     

 

15.   Mae’r Is-grŵp Hepatitis Feirysol hefyd wedi cefnogi nifer o gynlluniau/prosiectau peilot i helpu i adnabod a thrin unigolion sydd wedi’u heintio â hepatitis C. Mae hyn yn cynnwys gwerthusiad o wasanaethau cleifion allanol mewn un bwrdd iechyd, a chanfod achosion mewn gofal sylfaenol mewn bwrdd iechyd arall. Hefyd, mae arweinydd prosiect ac ymchwil cenedlaethol wedi cael ei benodi ar gyfer hepatitis i helpu i ddatblygu dulliau gweithredu a rhannu'r dysgu ar draws y byrddau iechyd.

Profi a thrin unigolion sydd wedi’u heintio â HCV sydd ar hyn o bryd yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n debygol o arwain at drosglwyddo pellach

16.   Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu Modiwl Feirysau a Gludir yn y Gwaed yn y Gronfa Ddata Lleihau Niwed, sydd wedi’i roi ar waith ym mhob gwasanaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol ar draws Cymru ac mewn nifer o safleoedd fferyllfeydd cymunedol peilot. Rhagwelir y bydd rhaglen genedlaethol i gyflwyno’r modiwl ar draws pob fferyllfa gymunedol berthnasol yn cychwyn yn y blynyddoedd nesaf.  O ystyried bod nifer achosion a mynychder haint HCV yn fwyaf uchel ymysg unigolion sydd un ai’n camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, mae’n hanfodol fod y poblogaethau hyn yn cael eu profi fel mater o drefn a’u cyfeirio am driniaeth cyn gynted ag y cânt eu hadnabod.  Mae modiwl feirysau a gludir yn y gwaed y Gronfa Ddata Lleihau Niwed yn darparu system i gofnodi profion arferol, yn unol â'r drefn profion arferol optio-allan sydd ar waith ym mhob gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yng Nghymru (https://gov.wales/docs/dhss/publications/160906substance-missuse-2016-2018cy.pdf ).  Hefyd, mae’r gronfa ddata yn galluogi’r profion a’r cofnod canlyniadau i ddilyn y claf ble bynnag y mae yng Nghymru, a hynny dros amser.  Mae’r gronfa ddata yn darparu mecanwaith ar gyfer sgrinio, diagnosio, cyfeirio a cherrig milltir trin, yn cynnwys dyddiad cychwyn, Ymateb Firolegol Cyson (SVR) ac ailheintio.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol i fonitro’r cynnydd (ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar : http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/BBV%20Annual%20report%202017-18%20FOR%20PUBLICATION.pdf ) .

 

17.   Profwyd mwy na 1600 o unigolion a oedd mewn cysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn 2017, ac mae hyn wedi cynyddu dros draean hyd yn hyn yn 2018.  Fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o unigolion yn dal heb eu profi ac mae'n bwysig bod adnoddau priodol ar gael fel bod modd profi pob cleient sydd 'mewn perygl' yn flynyddol.

 

18.   Yn ychwanegol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi ailgyflwyno Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) ar gyfer pob gwasanaeth camddefnyddio sylweddau.  Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o brofi pob unigolyn sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau o leiaf unwaith y flwyddyn tan na fyddant mewn perygl o heintiau HCV.  Bydd y Dangosyddion yn cael eu monitro ar gyfer pob safle drwy'r Gronfa Ddata Lleihau Niwed, sy'n sicrhau cofnod claf unigol o brofion, diagnosis a thriniaeth.  Mae'r system hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd gwasanaethau’n colli profion unigol sy’n adweithiol i HCV, neu’n 'syrthio drwy'r rhwyd', sydd wedi bod yn broblem yn y gorffennol.

 

19.   Ers 2010, mae profion feirysau a gludir yn y gwaed wedi dod yn rhan arferol o ddarpariaeth iechyd carchardai.  Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid polisi ffurfiol i optio allan o brofion ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed ar gyfer pawb sy'n cael eu derbyn i'r carchar. Mae pob carchar yng Nghymru yn cynnig sgrinio feirysau a gludir yn y gwaed er bod y lefelau cyflawni yn parhau'n amrywiol.  Mae Tabl 1 yn dangos nifer yr unigolion a ddefnyddiodd wasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed ym mhob carchar yng Nghymru rhwng 2015 a 2017.  Mae'r tabl yn dangos cynnydd yn nifer y dynion a brofwyd ers mis Tachwedd 2016 pan gyflwynwyd y broses sgrinio optio allan. Cyfartaledd cymedrig gwrthgyrff hepatitis C oedd 10% yn 2015, 7% yn 2016 a 10% yn 2017.

Tabl 1 Nifer yr unigolion a ddefnyddiodd wasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed ym mhob carchar yng Nghymru 2015-2017

Y safle a wnaeth gais

Unigolion yn bresennol, fesul blwyddyn

2015

2016

2017

Cyfanswm

CARCHAR BERWYN

0

0

264

264

CARCHAR CAERDYDD

238

885

1290

2413

                 CARCHAR Y PARC

398

857

1463

2718

CARCHAR PRESCOED

98

114

196

408

CARCHAR ABERTAWE

0

4

162

166

CARCHAR BRYNBUGA

70

255

71

397

Cyfanswm

804

2115

3446

6366

2.                    

20.Mae pob carchar yng Nghymru yn cynnig triniaeth ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed.  Mae nyrsys arbenigol yn cynnal clinigau ym mhob carchar i weld y rhai sy'n cael prawf cadarnhaol o wrthgyrff hepatitis C.  Mae sganwyr symudol a ddefnyddir o fewn carchardai yn golygu y gall unigolion drosglwyddo o brofion i driniaeth heb yr angen i adael y carchar yn y rhan fwyaf o achosion.

 

21.   Roedd cynnydd yn nifer y dynion a sgriniwyd ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed yn amlwg yn dilyn cyflwyno'r polisi sgrinio optio allan.  Er gwaethaf hyn, mae gweithredu'r profion optio allan ar draws carchardai yn parhau'n amrywiol ac ymddengys nad yw llawer o ddynion wedi cael eu profi.  Mae’r syniad o bennu targed dros gyfnod ar gyfer sgrinio feirysau a gludir yn y gwaed mewn carchardai yn cael ei ystyried.  Hyd yn hyn, mae carchardai yng Nghymru wedi cynyddu cyfraddau profi heb adnoddau uniongyrchol ychwanegol.  Mae angen ystyried sicrhau bod gan garchardai adnoddau digonol i ddygymod â chynnydd parhaus mewn profion mewn carchardai. 

Adran 2: Sut gellir cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol o firws Hepatitis C.

22. Mae Ymddiriedolaeth yr Afu Prydain (BLT) (fel rhan o'i gwaith gyda Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu) yn gweithio yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd yr afu, tynnu sylw at brif achosion clefyd yr afu a pha ddewisiadau ffordd o fyw ac atal sydd eu hangen i gynnal iechyd da’r afu. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn cyflwyno digwyddiadau sgrinio a sganio ‘Love Your Liver’ ledled Cymru, a chynhaliodd sioe deithiol ‘Love Your Liver’ ym mis Tachwedd 2018, gyda'r Uned Sganio Symudol yn ymweld â Bangor, Wrecsam, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

 

23. Fel rhan o raglen flaenoriaeth glinigol clefyd yr afu Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) a ariennir gan yr Ymddiriedolaeth, ym mis Gorffennaf 2018, cynhaliodd Cymru un o bedwar digwyddiad addysg gofal sylfaenol rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig rhwng y Coleg Brenhinol a'r Ymddiriedolaeth.

 

24. Ym mis Rhagfyr 2017, cynhaliwyd sioe deithiol arferion da hepatitis C yng Nghaerdydd. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan HCV Action ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r nod o ddod â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hepatitis C mewn amrywiaeth o gyd-destunau at ei gilydd, nodi heriau ac atebion o ran mynd i'r afael â hepatitis C yn lleol, a dangos a rhannu enghreifftiau o arfer da o ran atal, profi, a thriniaethau. Mae'r adroddiad cryno o’r sioe deithiol ar gael ar wefan HCV action: http://www.hcvaction.org.uk/resource/summary-report-hepatitis-c-good-practice-roadshow-cardiff-december-2017 [cyrchwyd 27/12/2018].

 

25. Yn ogystal, mae'r arweinydd cenedlaethol ar gyfer hepatitis wedi arwain dau gyfarfod rhwydwaith cenedlaethol y flwyddyn, i helpu i rannu gwersi a ddysgwyd rhwng timau a byrddau iechyd. Gwnaed y rhain yn bosibl drwy grantiau addysgol anghyfyngedig a ddarperir gan y diwydiant fferyllol.

26. Mae'r timau feirysau a gludir yn y gwaed yn rhoi cymorth ar gyfer mentrau codi ymwybyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys enghreifftiau fel addysgu timau gofal sylfaenol, codi ymwybyddiaeth ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd, ymgysylltu â'r cyfryngau ynghylch digwyddiadau codi ymwybyddiaeth, a phrosiect i brofi a chodi ymwybyddiaeth mewn mosg. Fodd bynnag, nid yw'n glir hyd yma beth fu effaith y mentrau hyn.

 

27. Mae cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol yn un o feysydd heriol y cynllun dileu. Byddai croeso i gymorth ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth benodol.  Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran dod o hyd i'r cleifion hynny nad oes modd eu hadnabod yn hawdd (e.e. unigolion o wledydd â nifer uchel o achosion, pobl a oedd yn arfer chwistrellu cyffuriau neu a fu'n arbrofi yn gynnar yn eu bywydau, a'r rhai mewn perygl yn sgil trallwysiad gwaed).

Adran 3: Y cwmpas i gynyddu gweithgarwch cymunedol e.e. rôl fferyllfeydd cymunedol.

28. Mae Is-grŵp Hepatitis Firaol LDIG wedi datblygu protocol cenedlaethol ar gyfer cyflwyno profion hepatitis C yn y gymuned, a gymeradwywyd gan Fwrdd Fferylliaeth Cymru.

 

29. Gyda chyllid gan LDIG, penodwyd arweinydd fferyllol cenedlaethol ar gyfer hepatitis ac mae bellach yn gweithio ar gyflwyno profion mewn fferyllfeydd cymunedol. Mae map o'r holl fferyllfeydd sy'n cynnal cyfnewidfeydd nodwyddau a therapi amnewid opiad wedi cael ei lunio ar sail data a dynnwyd o'r Gronfa Ddata Lleihau Niwed, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i hwyluso’r gwaith o gyflwyno. Sicrhawyd cyllid ar gyfer prosiect peilot i brofi'r protocol yn yr amgylchedd byw, a bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2019. 

 

30.                        Mae timau feirysau a gludir yn y gwaed o bob cwr o Gymru yn ymwybodol o'r protocol ac maent mewn sefyllfa i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno profion yn yr amgylchedd hwn.

 

31.   Mae'r arweinydd fferyllwyr cenedlaethol erbyn hyn yn dechrau gweithio ar lwybr triniaethau a gytunwyd yn genedlaethol mewn fferyllfa gymunedol i'w ddatblygu a'i gyflwyno yn 2020.

Adran 4: Hyfywedd hirdymor rhaglenni triniaeth.

32. Mae'r Is-grŵp Hepatitis Firaol, drwy'r arweinydd cenedlaethol ar gyfer hepatitis, wedi darparu cymorth gyda'r broses dendro genedlaethol a chyflwyno mynediad teg a thryloyw at driniaethau. Mae hyn wedi arwain at gyflawni arbedion sylweddol i'r GIG yng Nghymru drwy gaffael cenedlaethol, gan gadw at egwyddorion gofal iechyd darbodus, y defnydd o ddewisiadau triniaeth rhatach posibl lle bo'n briodol, a chymryd penderfyniadau ar lefel uwch i oedi triniaeth mewn cleifion lle gellid fforddio aros ar gyfer dewisiadau rhatach mwy diweddar yn ystod dyddiau cynnar rheoli hepatitis C.

 

33. Datblygwyd y protocol cenedlaethol ar gyfer triniaethau a llwybrau triniaeth Hepatitis C drwy gydlynu’r rhwydwaith feirysau a gludir yn y gwaed ac arweinyddiaeth glinigol.

 

34. Mae rhaglenni triniaethau’n cael eu hategu ar hyn o bryd gan gyfuniad o dimau feirysau a gludir yn y gwaed ar lefel byrddau iechyd a rolau cenedlaethol (arweinydd fferyllol, arweinydd prosiect ac ymchwil, arweinydd profion pwynt gofal). Mae Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu yn cefnogi'r rolau cenedlaethol hyn.  Mae cyllid ar gyfer y rolau hynny yn ansicr y tu hwnt i 2020.  Ni fydd dileu'n digwydd ar y llwybr presennol tan ar ôl 2030.  Os yw’r broses brofi a thrin am gael ei huwchraddio i'r pwynt y gellir cyflawni'r gwaith o’i ddileu erbyn 2030, yna mae'n hanfodol bod y rolau hyn yn cael eu cynnal y tu hwnt i 2020.

 

35. Mae llawer o ddatblygiadau wedi eu cynllunio i gynyddu profion unigolion sydd mewn perygl a'u cysylltu â gofal (e.e. rhagor o brofion mewn carchardai, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, asiantaethau'r trydydd sector, fferyllfeydd cymunedol).  Mae'n hollbwysig bod adnoddau priodol yn cael eu darparu ar gyfer y mentrau hyn fel bod cynnydd mewn profion yn yr amgylcheddau hyn yn gynaliadwy.

 

36. Mae angen i'r datblygiadau i gynyddu profion a thriniaeth ar gyfer unigolion mewn perygl gydweddu'n briodol â buddsoddiad i hyrwyddo negeseuon lleihau niwed er mwyn lleihau'r risg o ailheintio a sicrhau bod y broses ddileu mor gost-effeithiol â phosibl.